Mae fy meiau fel mynyddoedd,
Ac fel sêr y nef mewn rhi';
Ond mae haeddiant aberth Iesu,
Yn anfeidrol fwy i mi;
Er mwyn Iesu, &c.,
Dyro gysur im' a hedd.
Pa'm yr ofnaf feiau mawrion?
Trymach ydyw marwol glwy';
Mwy yw gair o enau'm Harglwydd,
Nac yw myrdd ohonynt hwy;
Goruchafiaeth, &c.,
Fydd yn hyfryd pan y dêl.
Casgliad E Griffiths 1855
Tôn [878747]: Bryntirion (Heinrich Roth 1802-89) gwelir: Arglwydd cadarn bydd o'm hochor F'enaid egwan paid ag ofni |
My faults are like mountains,
And like the stars of heaven in number;
But the merit of the sacrifice of Jesus,
Is immeasurably more to me;
For the sake of Jesus, &c.,
Give comfort to me and peace.
Why shall I fear great faults?
Heavier is a mortal wound;
Greater is a word from my Lord's mouth,
Than is a myriad of them;
Supremacy, &c.,
Shall be delightful when it comes.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|